SARPA Logo
   
   Hafan    Amcanion    Cyfarfodydd    Ymuno â ni    Cysylltu â ni    Cylchgrawn   Archif    Trafnidiaeth Cymru     Dolenni    English
 Dolygfa gyrrwr o'r rheilffordd

Llun:- Robert Davies:-"Of Time and The Railway"
    


CROESO I WEFAN SARPA (Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd rhwng Amwythig ac Aberystwyth

Diweddarwyd y tudalen hon ar 30 Mawrth 2024

SARPA yw'r grŵp defnyddwyr rheilffordd ar gyfer y lein rhwng Amwythig ac Aberystwyth. Mae'r lein yn rhedeg o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, trwy sir Trefaldwyn i arfordir gogledd Ceredigion, gan derfynu yn Aberystwyth, tref Prifysgol (ac weinyddol) sy'n dod yn fwyfwy pwysig. Ein pwrpas yw cadw ac hyrwyddo'r lein fel bod rhwydwaith cludiant cynaliadwy ar gyfer cenhedlaethau'r dyfodol. SARPA yw un o'r grŵpiau teithwyr rheilffyrdd mwyaf weithgar yng Nghymru ac rydym ni'n cwrdd yn fisol. Rydym ni'n ymgyrchu'n gyson am nifer o faterion o amseroedd ac amlder trenau i gynnal a chadw gorsafoedd. Rydym ni'n croesawu unrhyw sylwadau am y gwasanaeth rheilffordd yng Nghanolbarth Cymru.

O fis Chwefror 2021, bydd is-gwmni newydd o Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo i'r llywodraeth, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffordd o ddydd i ddydd, gan ganiatáu i'r llywodraeth chwarae fwy o rhan mewn darparu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau, gan adlewyrchu realiti masnachol newydd yr amgylchedd wedi-Covid-19. Gydag ansicrwydd enfawr ynghylch refeniw teithwyr, mae hyn yn rhoi'r sylfaen ariannol fwyaf sefydlog inni reoli gwasanaethau rheilffyrdd wrth inni ddod allan o'r pandemig.

Bydd KeolisAmey dal i chwarae rhan weithredol , yn arbennig yn ardal De Cymru.

Fodd bynnag, nid yw popeth yn iawn ac mae sefyllfa echrydus bresennol o wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, nid yn unig ar y Cambrian ond hefyd yng ngweddill Cymru a'r Gororau, yn rhywbeth tebyg i'r pryderon am ganlyniad rheolaeth Llywodraeth Cymru dros ddarpariaeth rheilffordd ar lefel meicro. Y consensws yw bod y gwasanaeth presennol ar ei waethaf ers cyn cof, yn waeth na Threnau Arriva Cymru, Central Trains na Rheilffyrdd Prydain yn y cyfnod Sprinter. Er gwaethaf yr holl sôn am Gymru'n arwain y byd a defnydd parhaus o eiriau fel Metro a Dechrau'r Daith, mae'r teithiau go iawn y mae pobl Cymru yn profi ar eu rhwydwaith rheilffordd yn wahanol iawn.

Rydym yn gobeithio bydd ymdrechion i greu newid go iawn.



Dewch o hyd i ni ar    



NEGES GAN Y CADEIRYDD

Mae'r flwyddyn newydd yn dod â chyfleoedd a heriau newydd. Datblygiad pwysig iawn i'r lein yw y bydd Tornado yn profi ei systemau ERTMS rhwng Amwythig a'r Drenewydd yn fuan. Does dim un injan stêm wedi rhedeg ar y Cambrian ers 2010, gyda dyfodiad y system signalau newydd ac hyd at nawr nid oedd neb yn awyddus i osod ERTMS ar injan stêm. Fodd bynnag, gyda system ERTMS yn dod i Brif Lein y Dwyrain (Llundain - Caeredin trwy Efrog), disgwylir i nifer o injans gwahanol gael eu haddasu i allu rhedeg o dan y system ERTMS. Er bod Tornado (RA9) yn rhy drwm i fynd ymhellach na'r Drenewydd, mae'n bosibl gallwn ni weld stêm ar y Cambrian unwaith eto, er enghraifft petai Black 5 yn cael ei addasu i redeg o dan y system ERTMS. Dylai'r symudiad at ERTMS ar weddill y rhwydwaith helpu datrys diffyg argaeledd achlysurol y Dosbarth 97 hefyd. .

O ran trenau modern, mae oedi yn parhau o ran y gwasanaeth bob awr llawn a'r trenau newydd. Ymysg ffactorau eraill, mae oedi pellach wedi bod o ran darparu unedau o'r dosbarth 197, mae nifer o'r unedau newydd wedi datblygu olwynion fflat ac mae addasiadau yn cael eu gwneud i rai platfformau ar gyfer y trenau newydd, sy'n uwch na'r trenau presennol.

Yn y cyfamser, rydym yn falch o weld bod dibynadwyedd ar y Cambrian wedi gwella yn ddiweddar ac mae'r trenau dosbarth 158 presennol yn darparu gwasanaeth da a chyfforddus gyda thÅ· bach ym mhob cerbyd. Yn olaf, mae pont troed newydd yn cael ei osod yng ngorsaf Y Drenewydd i ddarparu mynediad mwy hygyrch at blatfform 2.

Jeff Smith, Cadeirydd SARPA
Aberystwyth
Mawrth 2024






Gallwch chi weld beth ddywedsom ni am y rheilffyrdd yn y gorffenol gan ddilyn y dolen hon i'n tudalen archif. Rydym ni wedi archifo'r holl cylchlythrau nôl i fis Tachwedd 2001




Mae unrhyw barn a fynegir ar wefan SARPA yn barn cyfranwyr ac nid yw o reidrwydd yn cynrychio SARPA ar ei cyfan. Cyhoeddir wybodaeth gyda'r bwriadau gorau, ond ni all SARPA derbyn cyfrifoldeb am unrhyw canlyniadau gwybodaeth diffygiol.

Mae'r lluniau ar y wefan o dan hawlfraint y ffotograffwyr - ni ddylid defnyddio'r rhain heb eu caniatád.

Mae'r webmeistr yn cadw'r hawl i wneud newidiadau.


Noder mai nifer o ddolenni yn cael eu cynnwys yn y testun ar hyd a lled y wefan. Mae'r rhain er lles ein hymwelwyr, er enghraifft wrth esbonio terminoleg y rheilffyrdd. Dydy'r dolenni ddim yn cyfateb i fynegiant barn SARPA ar unrhyw bwnc.


Shrewsbury to Aberystwyth Rail Passengers Association (SARPA)
   c/o Arosfa,   7 Railway Terrace,  Heol y Doll,  Machynlleth,  Powys,  SY20 8BJ  Wales,  United Kingdom
© SARPA 2005-2024
All Rights Reserved
Website:- Angus Eickhoff