SARPA Logo
   
   Hafan    Amcanion    Cyfarfodydd    Ymuno â ni    Cysylltu â ni    Cylchgrawn   Archif    Trafnidiaeth Cymru     Dolenni    English
 Dolygfa gyrrwr o'r rheilffordd

Llun:- Robert Davies:-"Of Time and The Railway"
    


CROESO I WEFAN SARPA (Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd rhwng Amwythig ac Aberystwyth

Diweddarwyd y tudalen hon ar 19 Tachwedd 2023

SARPA yw'r grŵp defnyddwyr rheilffordd ar gyfer y lein rhwng Amwythig ac Aberystwyth. Mae'r lein yn rhedeg o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, trwy sir Trefaldwyn i arfordir gogledd Ceredigion, gan derfynu yn Aberystwyth, tref Prifysgol (ac weinyddol) sy'n dod yn fwyfwy pwysig. Ein pwrpas yw cadw ac hyrwyddo'r lein fel bod rhwydwaith cludiant cynaliadwy ar gyfer cenhedlaethau'r dyfodol. SARPA yw un o'r grŵpiau teithwyr rheilffyrdd mwyaf weithgar yng Nghymru ac rydym ni'n cwrdd yn fisol. Rydym ni'n ymgyrchu'n gyson am nifer o faterion o amseroedd ac amlder trenau i gynnal a chadw gorsafoedd. Rydym ni'n croesawu unrhyw sylwadau am y gwasanaeth rheilffordd yng Nghanolbarth Cymru.

O fis Chwefror 2021, bydd is-gwmni newydd o Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo i'r llywodraeth, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffordd o ddydd i ddydd, gan ganiatáu i'r llywodraeth chwarae fwy o rhan mewn darparu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau, gan adlewyrchu realiti masnachol newydd yr amgylchedd wedi-Covid-19. Gydag ansicrwydd enfawr ynghylch refeniw teithwyr, mae hyn yn rhoi'r sylfaen ariannol fwyaf sefydlog inni reoli gwasanaethau rheilffyrdd wrth inni ddod allan o'r pandemig.

Bydd KeolisAmey dal i chwarae rhan weithredol , yn arbennig yn ardal De Cymru.

Fodd bynnag, nid yw popeth yn iawn ac mae sefyllfa echrydus bresennol o wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, nid yn unig ar y Cambrian ond hefyd yng ngweddill Cymru a'r Gororau, yn rhywbeth tebyg i'r pryderon am ganlyniad rheolaeth Llywodraeth Cymru dros ddarpariaeth rheilffordd ar lefel meicro. Y consensws yw bod y gwasanaeth presennol ar ei waethaf ers cyn cof, yn waeth na Threnau Arriva Cymru, Central Trains na Rheilffyrdd Prydain yn y cyfnod Sprinter. Er gwaethaf yr holl sôn am Gymru'n arwain y byd a defnydd parhaus o eiriau fel Metro a Dechrau'r Daith, mae'r teithiau go iawn y mae pobl Cymru yn profi ar eu rhwydwaith rheilffordd yn wahanol iawn.

Rydym yn gobeithio bydd ymdrechion i greu newid go iawn.



Dewch o hyd i ni ar    



NEGES GAN Y CADEIRYDD

Mae'n anodd gwybod faint sydd wir wedi newid ers fy neges diwethaf. Er bod y rheilffordd o hyd yn boblogaidd, mae diffyg cerbydau, annibynadwyedd ac amserlen ar gyfer gwasanaeth bob awr sydd o hyd yn cael ei ohirio yn atal y Cambrian rhag cyrraedd ei lawn potensial. A gwyddwn bod dyheadau cymunedau, pobl a sefydliadau ar hyd y lein, ynghyd â phawb sydd eisiau byd gwell a gwyrddach, am weld y lein yn cyrraedd y potensial hwnnw.

Mae newyddion da i'w dathlu wrth gwrs. Er yr anghyfleustra i deithwyr am gyfnod go sylweddol, mae Traphont y Bermo yn cael ei adnewyddu gyda gwaith metel newydd yn cael ei osod i bara am gyfnod hir - canrif o leiaf gobeithio. Rydym yn croesawu gwaith i sicrhau parhad y lein ac rydym wedi bod yn lwcus iawn gyda Thraphont y Bermo dros y degawdau diwethaf.

Haf yma, daethpwyd o hyd i ddatrysiad i ganiatáu trenau 4 cerbyd ar lein yr arfordir am y tro cyntaf ers blynyddoedd, ac hynny mewn pryd i'r Eisteddfod Genedlaethol ar bwys Pwllheli. Edrychwn ymlaen i weld mwy o drenau 4-cerbyd ar lein yr arfordir yn yr haf yn y dyfodol.

Yn dilyn hyn, wrth gwrs, bydd angen mwy o unedau ar y Cambrian yn gyffredinol. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dangos hyblygrwydd gyda'u strategaeth cerbydau mewn rhannau eraill o'r rhwydwaith ac rwy'n gobeithio y gall SARPA ac eraill eu perswadio o'r angen am fwy o unedau gydag ERTMS fel bod modd i deithwyr gael y buddiannau llaw o'r gwaith gwych a wnaethpwyd ar lein yr arfordir yn ddiweddar.

Jeff Smith, Cadeirydd SARPA
Aberystwyth
Tachwedd 2023






Gallwch chi weld beth ddywedsom ni am y rheilffyrdd yn y gorffenol gan ddilyn y dolen hon i'n tudalen archif. Rydym ni wedi archifo'r holl cylchlythrau nôl i fis Tachwedd 2001




Mae unrhyw barn a fynegir ar wefan SARPA yn barn cyfranwyr ac nid yw o reidrwydd yn cynrychio SARPA ar ei cyfan. Cyhoeddir wybodaeth gyda'r bwriadau gorau, ond ni all SARPA derbyn cyfrifoldeb am unrhyw canlyniadau gwybodaeth diffygiol.

Mae'r lluniau ar y wefan o dan hawlfraint y ffotograffwyr - ni ddylid defnyddio'r rhain heb eu caniatád.

Mae'r webmeistr yn cadw'r hawl i wneud newidiadau.


Noder mai nifer o ddolenni yn cael eu cynnwys yn y testun ar hyd a lled y wefan. Mae'r rhain er lles ein hymwelwyr, er enghraifft wrth esbonio terminoleg y rheilffyrdd. Dydy'r dolenni ddim yn cyfateb i fynegiant barn SARPA ar unrhyw bwnc.


Shrewsbury to Aberystwyth Rail Passengers Association (SARPA)
   c/o Arosfa,   7 Railway Terrace,  Heol y Doll,  Machynlleth,  Powys,  SY20 8BJ  Wales,  United Kingdom
© SARPA 2005-2024
All Rights Reserved
Website:- Angus Eickhoff